Yr Adran Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae agwedd Ysgol Gyfun Cymer Rhondda tuag at ABCH yn ymgorffori ystod o brofiadau fydd ynhyrwyddo lles disgyblion ac yn ei galluogi i ddatblygu ymdeimlad o hunan barch achydymdeimlad gydag a thuag at eraill. Bwriadwn trwy ein darpariaeth ABCH baratoi ein disgyblion ar gyfer sialensau, dewisiadau, cyfrifoldebau a dysgugydol oes, fel y gallant ddatblygu’n ddinasyddion da yn eu cymunedau ac hefyddyfu yn unigolion sydd â phersbectif byd-eang. Bydd yr amcanion hyn yn treiddio trwy’r cwricwlwm a addysgir gennym yn y dosbarthiadau ond hefyd yn cael eucyflwyno trwy gyd-destunau ffurfiol o fewn rhaglen strwythuredig sydd yn rhoi pwyslais ataliol ar nifer o beryglon y dônt i gysylltiad â hwy yn ystod eu bywydau.
Yn ystod y flwyddyn,byddwn yn ymdrin â’r themâu canlynol
-
Dinasyddiaeth Weithgar
-
Iechyd a llesemosiynol
-
Datblygiad Moesolac Ysbrydol
-
Paratoi ar gyferdysgu gydol oes
-
Datblygu cynaliadwya dinasyddiaeth fyd eang
Bydd y themâu yncael eu atgyfnerthu drwy “Dyddiau ABCH” lle bydd y disgyblion yn cael y cyfle iweithio ar wahonol sgiliau ac yn elwa o brofiadau helaeth.
Arweinydd Pwnc
Mrs Catrin Willaims
Contact Details
Heol Graigwen
Cymer
Porth
Rhondda Cynon Taf
CF39 9HA
Tel 01443 680800
Fax 01443 680810
Email hjm@ysgolcymer.co.uk
