Dydd Mawrth, Medi 07, 2010
English
image image image image
Hwyl y Gwyliau Dymuna staff Y Cymer ddiolch yn ddidwyll i ddisgyblion a rhieni yr ysgol am eu holl waith a'u cefnogaeth ddiflino yn ystod y flwyddyn, gan ddymuno haf hir, hwyliog a diogel i bob un ohonoch. Edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ol i'r Cymer ym mis Medi!
Cymer a'r Gymdeithas Cynhaliwyd cyngerdd ardderchog yn neuadd yr ysgol yn ddiweddar gan ddisgyblion Blwyddyn 1 a 2 yr ysgol fabanod leol, Ysgol Cymmer, sydd wedi bod yn dysgu caneuon Cymraeg gyda disgyblion y Cymer.
Cymer Yn Croesawu Patagonia Croesawyd teulu Cymraeg o Batagonia i'r Cymer yn ddiweddar. Diddanwyd y teulu, sy'n Gymry Cymraeg balch fel ni, gan gor a grwp dramatig yr ysgol a chafodd y disgyblion gyfle i holi Rona a'i theulu am fywyd ym Mhatagonia.
Llwyddiant Pêl-droed Trefnwyd Twrnament Pel-droed blynyddol ein clwstwr unwaith eto eleni gan Mr Gwyn a disgyblion y Chweched Dosbarth. Cafwyd cystadlu brwdfrydig gan y bum ysgol, ond Ysgol Llwyncelyn ddaeth i'r brig eleni - llongyfarchiadau mawr!

Diogelwch ar y Wê

Drwgdybio camdriniaeth? Dywedwch!

Follow this link to get advice

Dyddiadau'r Tymor

Haf 2010
12fed o Ebrill - 28ain o Fai
7fed o Fehefin - 16eg o Orffennaf

Hydref 2010
2ail o Fedi - 22ain o Hydref
1af o Dachwedd - 17eg o Ragfyr



Marc Safon Sgiliau Sylfaenol

Buddsoddwyr Mewn Pobl

Gwobr Eco-sgolion

Croeso

Pleser a braint yw cyflwyno’r wefan hon i chi. Mae’n adlewyrchu popeth sy’n bwysig i ni yma yn Ysgol Gyfun Cymer Rhondda yng nghalon Cwm Rhondda – ein hiaith, ein tir, ein hanes a’n hetifeddiaeth.

Anelwn at sicrhau’r gorau i’n disgyblion, ym mhob agwedd o fywyd ysgol. Mae ein staff brwd, ymroddgar, y filltir ychwanegol, yn gweithio’n ddiflino er mwyn sicrhau bod ein pobl ifanc yn cyrraedd y safonau gorau a fedrant, sy’n eu paratoi ar gyfer addysg gydol oes. Mae pob unigolyn yn bwysig i ni yma’n y Cymer, ac anelwn at ddatblygu pob sgil, medr, a gallu, trwy ddarpariaeth addysgol a chyfleoedd eang a chyffrous sy’n gweddu’r unfed ganrif ar hugain. Mae dwyieithrwydd rhugl ein disgyblion yn destun balchder i ni.

Mae Cymreictod a pharch yn greiddiol i’n bodolaeth yma. Parch at ein hunain, parch at eraill, a’n hamgylchfyd. Parch at ein hiaith, ein gorffennol, a’n diwylliant unigryw. Ymfalchiwn yn ein hunaniaeth a chyrhaeddiadau’n gilydd. Anelwn at greu amgylchfyd gwaraidd sy’n hybu lles a datblygiad pawb yn ein cymuned.

Mae’n partneriaethau’n bwysig i ni. Mae ein partneriaeth agos gyda’r cartref yn allweddol i ni er mwyn sicrhau safonau uchel ym mhob agwedd o waith yr ysgol, a chynhaliaeth ystyrlon ar gyfer ein disgyblion. Mae'r wefan hon yn gam pwysig tuag at sefydlu'r berthynas hanfodol honno.

Dymunwn bob llwyddiant a hapusrwydd i'n disgyblion fel aelodau o deulu’r Cymer.

Rhian Morgan Ellis
Pennaeth

 

Dyddiadau Pwysig


Medi
Golygu'r Calendr Llawn

Cymdeithas Rhieni Staff

Dewch i ymuno â ni!

Ry’n ni’n gweithio’n ddiflino i ehangu adnoddau cymuned yr ysgol er lles y disgyblion a phawb. Felly, dewch i ymuno â ni!

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Rob Grady ar 01443 687931

Manylion Cyswllt

Ysgol Gyfun Cymer Rhondda
Heol Graigwen
Cymer
Porth
Rhondda Cynon Taf
CF39 9HA

Ffôn 01443 680800
Ffacs 01443 680810

Ebost hjm@ysgolcymer.co.uk

cylchlythyr

JoomlaWatch Stats 1.2.9 by Matej Koval